Croeso i Ysgol Nantgaredig / Welcome to Nantgaredig School

 

Gweithgareddau Allgyrsiol

 

Extra-curricular Activities

Rhoddir llawer o bwyslais ar weithgareddau allgyrsiol gan holl staff yr ysgol. Anogir y plant o flwyddyn 1 i fyny i ymaelodi â mudiad Urdd Gobaith Cymru.  Mae gweithgareddau'r Urdd yn cynnwys chwaraeon o bob math, gwaith celf a chrefft, cwisiau ynghyd â gwaith Eisteddfod sef canu, llefaru a dawnsio.

 

Rydym fel ysgol yn cystadlu'n gyson mewn cystadlaethau chwaraeon o bob math, ac eto anogir y plant i fwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau. Cynhelir cyngherddau yn yr ysgol ac o fewn y gymuned. Gelwir ar y plant yn gyson i berfformio ac i helpu elusennau ac achosion da'r ardal.

 

Ym mlwyddyn 5 a/neu 6 caiff y plant gyfle i fynd o ddydd Llun tan ddydd Gwener ar gwrs preswyl i Ganolfan y Fonesig Stepney ym Mhentywyn. Yno mi fyddant yn ymgymryd â gweithgareddau awyr agored ynghyd ag astudiaethau natur.

 

Dyma  restr o'r gweithgareddau amrywiol fu'r plant ynghlwm â hwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf :

 

A great emphasis is placed by all school staff on extra curricular activities. All pupils from Year 1 onwards are encouraged to become members of Urdd Gobaith Cymru, which is the Welsh League of Youth. The Urdd offers various activities for its members from sporting activities to competing at Eisteddfodau in reciting, singing and dancing.

 

The school takes an active role in various sporting competitions, and again the pupils are encouraged to enjoy taking part in all events. Various concerts are held within school and the community.  The pupils are frequently requested to perform at various fundraising events in the locality.

  

When in Year 5 and/or 6, pupils will be given an opportunity to go on a residential course at the Lady Stepney Residential Centre at Pendine.  Pupils will travel down on a Monday and return on Friday. Teachers will accompany them.

 

Here’ s a list of activities that the pupils were involved  with during the last school year:

Cwis yr Urdd

 

Urdd Quiz

Clybiau/Ffair llyfrau

 

Book Clubs//Fairs

Canu Carolau/ Cyngherddau

 

Carol Singing/ Concerts

Eisteddfod yr Urdd

 

Urdd Eisteddfod

Dawnsio Gwerin

 

Folk Dancing

Drama

 

Drama

Mabolgampau/ Gymnasteg

 

Athletics/Gymnastics

Pysgota

 

Fishing

Taith i'r Wyddfa

 

Trip to Snowdon

Clwb Gwenyn

 

Bee Keeping Club

Clogwyna Môr

 

Coasteering

Caiaco

 

Kayaking

Clwb Garddio

 

Gardening Club

Her Formiwla 1

 

Formula 1 Challenge

Gwersyll Pentywyn

 

Pendine School Camp

Gwersyll Llangrannog

 

Llangrannog Camp

Cerddorfeydd

 

Orchestras

Cystadlaethau Ysgrifennu

 

Writing Competitions

Rygbi

 

Rugby

Pêl Droed

 

Football

Pêl Rhwyd

 

Netball

Côr yr Ardal

 

Area Choir

Dringo

 

Climbing

Abseilio

 

Abseiling

Cystadleuaeth Coginio 'Active Kids'

 

'Active Kids' Cooking Challenge

Powered by schools.ik.org an Internet Kit Ltd service